Pencampwriaeth Rygbi yr Americas

Americas Rugby Championship
Logo Pencampwriaeth Rygbi yr Americas

Mae Pencampwriaeth Rygbi yr Americas (enw swyddogol, masnachol: Americas Rugby Championship) yn gystadleuaeth rygbi'r undeb, a gynhelir bob blwyddyn ym mis Chwefror a mis Mawrth, gan dimau Ariannin XV (tîm wrth gefn yr Ariannin gelwir hefyd yn y Jaguars), Brasil, Canada, Chile, UDA ac Wrwgwái. Ysbrydolwyd hi ym mhob ffordd gan Dwrnamaint Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a gelwir hi weithiau yn Americas' Six Nations. Cynhaliwyd y tymor gyntaf yn 2016 er bod hanes hŷn o gystadlaethau pan-Americanaidd.

Cyhoeddir yr enillydd yn "Pencampwr America". Goronir y tîm gyda'r "Gamp Lawn" pan fydd wedi trechu bob tîm arall yn y twrnamaint (fel gwnaeth yr Unol Daleithiau yn 2018). Mae'r record orau o'r gystadleuaeth hefyd yn cael ei dal gan yr Americanwyr yn ogystal â'r Ariannin gyda dwy fuddugoliaeth derfynol yr un.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne